Nick Morris (Policy & Campaigns Officer) Ty Penderyn, 26 High Street Merthyr Tydfil CF47 8DP Email: nick.morris@sense.org.uk Voice/text: 0845 127 0090/0092 A Sense Cymru Assembly briefing: Social Services & Wellbeing Bill, November 2012 About Sense Sense is a national charity that supports and campaigns for children and adults who are deafblind. We provide tailored support, advice and information as well as specialist services to all deafblind people, their families, carers and the professionals who work with them. In addition, we support people who have a single sensory impairment with additional needs. About deafblindness Deafblindness is a combination of both sight and hearing difficulties. Most of what we learn about the world comes through our ears and eyes, so deafblind people can often face problems with communication, access to information and mobility. Key points in relation to the Social Services & Wellbeing Bill • Sense Cymru welcomes a number of the measures in the Social Services & Wellbeing proposals. • We welcome that Gwenda Thomas, the Deputy Minister for Social Services, recently wrote to a deafblind person that the Welsh Government will “strive to ensure that the specific needs of deafblind people, their families and carers, are fully integrated into [the] framework of support, including the new outcomes framework and Code of Practice”. 1) Welsh Deafblind Guidance • The current Deafblind Guidance, issued by the Welsh Government in 2001 [National Assembly for Wales Circular No.10/01, 31 August 2001], sets out important statutory rights for deafblind adults and children, including access to specialist assessments, one-to-one support and accessible information from their local authority. We would like to see these entitlements taken forward into the new system on a statutory basis. 2) Timely assessments and appropriate support • According to Sense research 49% of deafblind people had found it hard to get an assessment, or were still trying to get one. The Deafblind Guidance requires that assessments be carried out by specifically trained professionals with specialist knowledge of deafblindness. • Appropriate one-to-one support recommended by a trained professional can reduce the risk of inappropriate support that causes other problems for deafblind people and families. • Local authorities that offer an initial contact service, such as a telephone advice line for social services, must not use the service in place of an assessment of needs by someone suitably qualified. This risks screening people out of services before their needs have been properly assessed. 3) Early intervention and prevention • A crucial role for the Welsh Government is a continued emphasis on prevention and early intervention to prevent needs escalating. Lower level needs that are not funded by social services can increase. By not funding lower level needs social services often store up future problems - and greater costs - addressing needs that have increased. • Early investment in rehabilitation can also mean better experiences for some individuals and lower costs. For example, learning braille can ensure some people who are deafblind can recover their literacy. Other needs are ongoing, however, such as a deafblind person’s requirement for communication or interpreting support. Nick Morris (Swyddog Polisi & Ymgyrchoedd) Ty Penderyn, 26 Stryd Fawr Merthyr Tudful CF47 8DP Ebost: nick.morris@sense.org.uk Llais/testun: 0845 127 0090/0092 Briff i’r Cynulliad Sense Cymru: Bil Gwasanaethau Cyhoeddus a Lles, Tachwedd 2012 Ynglŷn â Sense Mae Sense yn elusen genedlaethol sy’n cynorthwyo plant ac oedolion byddarddall ac sy’n ymgyrchu drostynt. Rydym yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth wedi’u teilwra yn ogystal â gwasanaethau arbenigol i bob unigolyn byddarddall, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda nhw. At hynny, rydym yn cynorthwyo pobl sydd â nam ar un o’u synhwyrau yn ogystal ag anghenion ychwanegol. Ynglŷn â dallineb-byddardod Mae dallineb-byddardod yn gyfuniad o drafferthion sy’n ymwneud â’r golwg a’r clyw. Trwy ein clustiau a’n llygaid y byddwn yn dysgu’r rhan fwyaf o’r hyn yr ydym yn ei wybod am y byd, felly gall pobl fyddarddall wynebu problemau’n aml wrth geisio cyfathrebu, cael mynediad i wybodaeth a symud o gwmpas. Pwyntiau allweddol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles • Mae Sense Cymru yn croesawu nifer o’r mesurau sydd yn y cynigion ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. • Rydym yn croesawu’r ffaith bod Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ysgrifennu’n ddiweddar at berson byddarddall gan nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn “ymdrechu i sicrhau bod anghenion penodol pobl fyddarddall, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael eu hintegreiddio’n llawn yn y fframwaith cymorth, gan gynnwys y fframwaith newydd ar gyfer canlyniadau a’r Cod Ymarfer”. 1) Canllawiau ynghylch Pobl Fyddarddall • Mae’r Canllawiau cyfredol ynghylch Pobl Fyddarddall, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2001 [Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif 10/01, 31 Awst 2001], yn rhoi hawliau statudol pwysig i oedolion a phlant byddarddall, gan gynnwys mynediad i asesiadau arbenigol, cymorth un i un a gwybodaeth hygyrch gan eu hawdurdod lleol. Hoffem weld yr hawliau hyn yn cael eu cyflwyno ar sail statudol yn y system newydd. 2) Asesiadau amserol a chymorth priodol • Yn ôl ymchwil gan Sense nid oedd 49% o bobl fyddarddall wedi cael asesiad arbenigol, er gwaetha’r ffaith bod ganddynt hawl gyfreithiol i gael asesiad o’r fath. Mae’r Canllawiau ynghylch Pobl Fyddarddall yn mynnu y dylai asesiadau gael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n benodol ac sydd â gwybodaeth arbenigol am ddallineb-byddardod. • Gall cymorth un i un priodol a argymhellir gan weithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi leihau’r risg o gymorth amhriodol sy’n achosi problemau eraill i bobl fyddarddall a’u teuluoedd. • Rhaid sicrhau nad yw awdurdodau lleol sy’n cynnig gwasanaeth cyswllt cychwynnol, megis llinell cyngor dros y ffôn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw yn lle asesiad o anghenion gan rywun sydd â chymwysterau addas. Gallai hynny olygu bod pobl yn cael eu sgrinio allan o wasanaethau cyn i’w hanghenion gael eu hasesu’n iawn. 3) Ymyrryd yn gynnar • Un rôl hanfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru yw rhoi pwys parhaus ar atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn sicrhau na fydd anghenion yn dwysáu. Gall anghenion ar lefelau is, na chânt eu hariannu gan wasanaethau cymdeithasol, gynyddu. Trwy beidio ag ariannu anghenion ar lefelau is, bydd gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn cronni problemau ar gyfer y dyfodol - a chostau uwch - wrth fynd i’r afael ag anghenion sydd wedi cynyddu. • Yn ogystal, gall buddsoddi’n gynnar mewn adsefydlu olygu gwell profiadau i rai unigolion a chostau is. Er enghraifft, gall dysgu Braille alluogi rhai pobl ddall neu fyddarddall i adfer eu sgiliau llythrennedd. Bydd anghenion eraill yn parhau, fodd bynnag, megis angen unigolyn byddarddall i gael cymorth i gyfathrebu neu ddehongli. 1