Trafferthion adnabod pobl ... methu clywed pan fo rhywun yn canu cloch y drws ... chwilio drwy ddefnyddio dwylo ... anhawster deall pobl anghyfarwydd ... Llenwch y Bylchau> Rhestr wirio ar gyfer asesu pobl fyddarddall hŷn. Mae hawl gan bobl sydd â cholled synhwyraidd deuol i gael asesiad arbenigol. Os ydych yn asesu pobl hŷn ond nad ydych yn meddu ar arbenigedd mewn colled synhwyraidd, bydd y rhestr wirio hon yn eich helpu i adnabod pobl sydd angen asesiad arbenigol. > Oes ganddynt nam synhwyraidd deuol? Os ydych wedi ticio dau neu fwy o feini prawf ar y ddwy restr wirio hyn, mae'n debygol bod ganddynt nam synhwyraidd deuol - ac mae'n debygol y bydd hyn yn achosi cryn anhawster iddynt yn eu bywyd bob dydd. Dylent felly gael eu hasesu gan rywun yr ystyrir sy'n gymwys o dan y Canllawiau Gofal Cymdeithasol ar gyfer Plant ac Oedolion Byddar a Dall. Dylech gysylltu â'ch tîm synhwyraidd i drefnu asesiad arbenigol. Lluniwyd y rhestr wirio hon gan Sense, yr elusen fwyaf yn y DU sy'n gweithio gyda phobl fyddarddall. www.sense.org.uk campaigns@sense.org.uk Golwg A yw'r person hŷn yn cael anawsterau gyda'r canlynol: -• adnabod pobl, yn arbennig mewn sefyllfaoedd annisgwyl? -• golau llachar, golau isel, neu'r ddau? -• darllen mynegiant wyneb? -• dod o hyd i rywbeth maent wedi ei golli heb ddefnyddio eu dwylo, neu ofyn i rywun arall ddod o hyd iddo ar eu rhan? -• darllen llyfrau, y papur newydd, wyneb eu horiawr neu wylio'r teledu? -• symud o amgylch mewn mannau anghyfarwydd, neu mewn mannau cyfarwydd os ydynt wedi newid. * -• A fyddant yn dweud yn aml fod angen sbectol newydd arnynt? * Efallai bod yr anawsterau o ran symud yn gysylltiedig â materion corfforol eraill hefyd, felly mae angen arsylwad gofalus. Os ydych wedi ticio dau neu fwy o'r meini prawf hyn, yna dylid asesu golwg y person hŷn. Clyw. A yw'r person hŷn: -• yn gofyn i bobl ailadrodd eu hunain yn aml? -• yn methu clywed pan fo rhywun yn curo ar y drws neu'n canu'r gloch? -• yn cwyno fod pobl yn 'mwmian' neu'n siarad yn rhy gyflym? -• yn cael anhawster clywed pan fo llawer o bobl o amgylch? -• yn cael anhawster clywed y teledu, radio neu gerddoriaeth, a bod angen i'r sain fod yn uchel? -• yn cael anhawster deall pobl anghyfarwydd? -• yn cael trafferthion wrth ddefnyddio'r ffôn, ac efallai bod yn well ganddynt beidio? -• oes angen i chi siarad yn uchel neu'n glir iawn, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd tawel er mwyn cael eich deall? Os ydych wedi ticio dau neu fwy o'r meini prawf hyn, yna dylid asesu clyw'r person hŷn.