Mae llawer gormod o bobl hŷn sy'n fyddarddall nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Pecyn Cymorth ar gyfer pobl broffesiynol sy'n gweithio gyda phobl fyddarddall hŷn. Llenwch y Bylchau> Mae'r llyfryn hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n gweithio gyda phobl fyddarddall hŷn. Mae'n egluro beth yw bod yn fyddarddall a'r ffordd mae'n effeithio ar bobl. Mae'n nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol ac yn egluro sut mae modd cefnogi a chynorthwyo pobl fyddarddall. Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn datblygu problemau gyda'u clyw a'u golwg. Mae gan rai pobl hŷn anawsterau dybryd o ran eu clyw a'u golwg - a gelwir hyn yn fyddarddallineb. Bydd y golled hon yn y clyw a'r golwg yn digwydd yn raddol iawn gan amlaf. Mae'n bosibl na fydd y bobl hŷn eu hunain, nac eraill o'u hamgylch yn sylwi ar yr hyn sy'n digwydd nac yn ei ddeall. Oherwydd y cyfuniad hwn o golled clyw a golwg, efallai y cânt broblemau wrth gyfathrebu, wrth symud o gwmpas ac wrth gael gafael ar wybodaeth. Gall hyn achosi anawsterau wrth geisio gwneud llawer o weithgareddau bob dydd gan arwain at wneud iddynt deimlo nad ydynt yn rhan o gymdeithas. Ond gallai pethau fod yn wahanol. Os yw'r gwasanaethau a'r cyfleoedd cywir ar gael, gall pobl fyddarddall hŷn fyw'n annibynnol a gwneud dewisiadau am sut yr hoffent fyw. Os darperir gwasanaethau priodol ar yr adeg cywir, gellir lleihau'r angen am fwy o ddarpariaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiweddarach. Mae gan awdurdodau lleol bellach gyfrifoldeb statudol dros bobl hŷn sydd â chyfuniad o golled clyw a golwg - sy'n seiliedig ar y canllawiau yng Nghylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhif 10/01 "Gofal Cymdeithasol am Blant ac Oedolion sy'n Fyddar a Dall". Mae'n ofynnol iddynt ddarparu asesiadau arbenigol, gwybodaeth briodol a gwasanaethau sydd wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion bobl fyddarddall. Byddwn yn cyfeirio at y Canllawiau Byddarddall hyn drwy gydol y llyfryn hwn. Mewn sawl achos, bydd tîm o weithwyr cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yn ymweld â phobl fyddarddall hŷn - yn hytrach na thîm sy'n arbenigo mewn nam synhwyraidd. Mae'r llyfryn hwn yn egluro sut y gallwch sicrhau bod pobl fyddarddall hŷn yn cael y gefnogaeth y mae ganddynt yr hawl iddi. Llenwch y Bylchau > Cynnwys Pobl fyddarddall hŷn • Beth yw byddarddallineb? • Sut mae'n effeithio ar bobl hŷn • Siarad am golled synhwyraidd • Faint o bobl hŷn yr effeithir arnynt? Gofynion cyfreithiol • Beth ddywed y Canllawiau Byddarddall? • Asesu Unedig • Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal • Adnabod byddarddallineb • Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Gweithio gyda phobl fyddarddall hŷn • Sut gall eich tîm weithio'n effeithiol gyda phobl fyddarddall hŷn? • Arwyddion o golled clyw a golwg • Cyfathrebu'n effeithiol - wyneb yn wyneb • Cyfathrebu'n effeithiol - o bell • Rhestr wirio Adnoddau • Sefydliadau defnyddiol • Cyfeiriadau • Adnoddau ar y we Pobl fyddarddall hŷn Mae'r ymadrodd 'byddarddall' yn ddisgrifiad o bobl o bob oed sydd â chyfuniad o nam ar eu clyw a'u golwg. Gallai'r unigolion hyn fod yn fyddar neu'n drwm eu clyw yn ogystal â dall neu'n rhannol ddall. Nid oes angen iddynt fod yn hollol fyddar neu'n hollol ddall. Yn wir, mae gan y rhan fwyaf o bobl fyddarddall ychydig o glyw neu olwg defnyddiol. Beth byddarddallineb? Byddar Byddarddall Dall Nid yw'r diffiniadau o fod yn fyddarddall yn dueddol o ganolbwyntio ar y graddau y mae person yn fyddar neu'n ddall, ond yn hytrach ar effaith y cyfuniad hwn o golled ar fywyd bob dydd - y ffordd mae'n effeithio ar eu gallu i gyfathrebu, i symud o amgylch a chael mynediad i bob math o wybodaeth. Nid yw byddarddallineb yn golygu person byddar sy'n methu gweld neu berson dall sy'n methu clywed. Mae'r ddau nam yn effeithio ar ei gilydd ac yn lluosi’r effaith cyfan. Dyma ddisgrifiad un person byddarddall o'r cyflwr: "Os ydych yn meddwl am fyddardod fel y lliw melyn a dallineb fel y lliw glas, wrth gymysgu'r ddau gyda'i gilydd nid y lliw melyn-glas a gewch, ond lliw hollol wahanol - gwyrdd.” Sut mae'n effeithio ar bobl hŷn Mae byddardallineb yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Pan gaiff dulliau cyfathrebu eu cyfyngu, caiff pobl eu hynysu'n gymdeithasol ac yn emosiynol. Pan na fydd pobl yn gallu symud o amgylch ar eu pen eu hunain, mae'n effeithio ar eu hyder, eu hannibyniaeth a'u sgiliau byw o ddydd i ddydd. Heb gael gafael ar wybodaeth, ni all pobl wneud penderfyniadau hyddysg ac mae hyn yn arwain at golli mwy o annibyniaeth. Mae'r rhain yn brofiadau cyffredin i bobl fyddarddall hŷn. Gall timau gwaith cymdeithasol pobl hŷn wneud llawer i helpu pobl fyddarddall hŷn. Ewch i dudalen 15 i gael gwybodaeth am sut y gellir hybu hyn. Bydd cyfuniad o nam ar y golwg a nam ar y clyw yn lluosi'r anawsterau y mae unigolyn yn eu hwynebu. Er enghraifft: • Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw ac yn methu clywed yr hyn mae rhywun yn ei ddweud, rydych yn edrych ar eu gwefusau a’r mynegiant ar eu hwynebau i gael cliwiau ychwanegol. Ond os byddwch yn ddall hefyd neu'n rhannol ddall, sut mae deall yr hyn sy'n cael ei ddweud? • Os ydych yn berson dall neu'n rhannol ddall sydd wedi arfer teithio'n annibynnol, rydych yn dibynnu ar eich clyw. Ond os byddwch yn mynd yn fyddar neu'n drwm eich clyw ac yn methu gweld na chlywed y traffig, sut mae gwybod ei bod yn ddiogel i groesi'r ffordd? • Os na allwch bellach weld na chlywed y teledu yn hawdd, gwrando ar y radio, darllen eich llythyrau, defnyddio'r ffôn neu gymryd rhan mewn sgwrs cewch eich ynysu oddi wrth bobl, digwyddiadau a chymdeithas. Gall amddifadedd synhwyraidd hyn arwain at lefelau uchel iawn o ddiflastod, straen, iselder ac ymgilio. Peidiwch â cholli cyfle Os ydym o'r farn bod colli golwg a chlyw yn rhan arferol, dderbyniol o heneiddio, rydym yn colli'r cyfle i helpu pobl i wneud y defnydd gorau o'r golwg a'r clyw sydd ganddynt ar ôl. Siarad am golled synhwyraidd Nid yw llawer o bobl hŷn sy'n colli eu clyw a'u golwg yn ystyried eu hunain yn bobl fyddarddall. Efallai mai eu barn yw fod colled synhwyraidd yn un arall o effeithiau henaint ynghyd â phroblemau symudedd, colli cof, salwch neu iselder - ac mae hynny’n wir yn aml. Ond nid yw hynny'n golygu na allwn wneud rhywbeth am y sefyllfa. Efallai eu bod wedi colli eu clyw neu eu golwg yn araf felly dim ond yn raddol y maent wedi sylwi bod rhywbeth o'i le. Efallai y gallant weld rhai pethau, ond nid eraill. Efallai y gallant glywed mewn rhai sefyllfaoedd, ond nid eraill. Efallai eu bod yn dweud pethau fel: “Tydw i ddim yn clywed yn rhy dda" neu "Rwy'n cael problemau gyda'm llygaid”. Ond nid henaint yn unig sy'n gyfrifol am yr anawsterau bob dydd a gaiff eu disgrifio ganddynt gan mai dyma arwyddion arferol bod yn fyddarddall. Gall gweithwyr proffesiynol ddefnyddio ymadroddion megis byddarddall neu golled synhwyraidd deuol. Mae'r Canllawiau Byddarddall yn defnyddio'r ymadroddion hyn am yn ail er mwyn cydnabod bod y cyfuniad o golled clyw a golwg yn anodd i unrhyw un, hyd yn oed os yw'n dal i allu clywed neu weld ychydig. Hyd yn oed os na fydd person yn defnyddio'r ymadrodd byddarddall i'w disgrifio'u hunain, mae angen i ni gydnabod effeithiau byddarddallineb a chynnig y gefnogaeth a'r gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion hynny. Byddwch yn ymwybodol o'r iaith y mae person yn ei defnyddio i'w disgrifio'u hunain ac addasu eich iaith eich hun i adlewyrchu'r hyn sy'n gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus. Faint o bobl hŷn yr effeithir arnynt? Ni wyddom faint yn union o bobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol. Mae byddarddallineb yn aml yn anabledd cudd ac mae problemau o ran diffiniad ac asesu'r cyflwr yn ei gwneud yn anodd casglu ystadegau. Yr hyn sy'n glir yw bod yr achosion yn llawer uwch ymhlith pobl dros 75 oed na gweddill y boblogaeth. Dengys yr astudiaethau: • Bydd un o bob deuddeg ohonom yn mynd yn ddall neu'n rhannol ddall erbyn i ni gyrraedd 60 oed. Mae hyn yn codi i un o bob chwech erbyn i ni gyrraedd 75 oed (Vale a Smyth, 2003) • Mae 55% o bobl dros 60 oed yn fyddar neu'n drwm eu clyw (RNID 2000) • Mae 35% o bobl sydd â nam ar eu golwg yn nodi bod ganddynt anawsterau sylweddol gyda'u clyw (RNIB, 1991) • Mae tua 50% o bobl dros 80 oed sydd â nam ar eu golwg wedi eu colli eu clyw yn sylweddol hefyd (RNIB, 1991) • Ychydig iawn o gynrychiolaeth a gaiff pobl hŷn sydd â cholled clyw a golwg o gymunedau lleiafrifol yn yr ystadegau ond mae'n debygol bod yr achosion yn debyg i'r hyn sy'n wir ar gyfer cymunedau gwyn Prydeinig. Dengys y ffigurau hyn mor gyffredin yw colled synhwyraidd deuol ymysg pobl hŷn. Mae'n debyg eich bod eisoes mewn cysylltiad â rhai pobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol. Darllenwch fwy i gael gwybod sut y gallwch sicrhau bod eich gwasanaethau yn hygyrch iddynt hwy a hybu eu hannibyniaeth a dewis. Mae'n debyg eich bod eisoes mewn cysylltiad â rhai pobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol Gofynion cyfreithiol Mae angen i bob tîm gwasanaethau cymdeithasol ddeall sut i ymateb i anghenion pobl fyddarddall. Mae'r bennod hon yn nodi sut mae'r canllawiau byddarddall yn berthnasol i ganllawiau eraill y byddwch yn gweithio gyda hwy. Beth ddywed y Canllawiau Byddarddall? Mae'r canllawiau statudol, “Gofal Cymdeithasol am Blant ac Oedolion sy'n Fyddar a Dall" a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2001 yn cynnig fframwaith ar gyfer yr holl wasanaethau cymdeithasol. Mae'n amlinellu hawliau pobl fyddarddall a'r ddyletswydd a roddir ar awdurdodau lleol. Gofynnir i awdurdodau lleol gymryd y camau canlynol: • nodi pwy yw'r bobl fyddarddall yn eu dalgylch, cysylltu â hwy a chadw cofnod ohonynt - gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau lluosog sy'n cynnwys nam synhwyraidd deuol; • pan wneir cais am asesiad neu pan fydd angen un, sicrhau y caiff ei gynnal gan berson/tîm sydd wedi cael hyfforddiant penodol, sydd â'r medrau i asesu anghenion person byddarddall - yn enwedig i asesu'r angen am gymorth dynol un-i-un, technoleg gynorthwyol ac ailsefydlu; • sicrhau y darperir gwasanaethau priodol ar gyfer pobl fyddarddall - na allant o reidrwydd fanteisio ar wasanaethau prif ffrwd neu'r gwasanaethau hynny sydd wedi eu hanelu'n bennaf at bobl ddall neu bobl fyddar sy'n gallu dibynnu ar eu synhwyrau eraill; • darparu neu gomisiynu gweithwyr cefnogi un-i-un sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol ar gyfer pobl sydd wedi eu hasesu fel rhai sydd angen y cymorth hwn; • darparu gwybodaeth am wasanaethau mewn fformatau a dulliau sy'n hygyrch i bobl fyddarddall; • sicrhau bod cyfrifoldebau un aelod o'r uwch reolwyr yn cynnwys cyfrifoldeb cyfangwbl am wasanaethau i bobl fyddarddall. Mae'r canllawiau a'i ddyletswyddau yn orfodol. Gallai awdurdodau sy'n methu â chydymffurfio gael eu herio drwy adolygiad barnwrol. Bydd Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn adolygu cydymffurfiaeth â'r canllawiau fel rhan o'i phrosesau arolygu rheolaidd. Sut mae'r Canllawiau Byddarddall yn cydweddu â'r canlynol: A. Asesu Unedig Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a GIG Cymru yn datgan bod asesu unedig yn golygu bod angen i'r person sydd â'r anghenion a'r gweithwyr proffesiynol ystyried esboniadau gwahanol o'r ffordd y mae'r anghenion wedi codi a'r ffordd mae anghenion gwahanol yn ymgysylltu â'i gilydd. Un o egwyddorion allweddol y canllawiau yw y dylai'r person fod yn ganolog i'r asesiad bob amser. Y nod yw sicrhau mwy o gydweithio a rhwystro pobl rhag cael eu hasesu'n barhaus gyda gwahanol asiantaethau yn gofyn am yr un wybodaeth. Mae'r systemau asesu yn cynnwys y mathau cyffredinol canlynol: • asesiad cyswllt • asesiad trosolwg • asesiad arbenigol/dwfn, ac • asesiad cynhwysfawr. Er mwyn sicrhau y caiff pobl fyddarddall hŷn eu cynnwys, mae'n bwysig y caiff eu hanghenion penodol eu cydnabod yn ystod yr asesiadau cyswllt neu'r asesiadau trosolwg. Os caiff gwybodaeth hanfodol am effaith byddarddallineb ei golli ar y cam hwn, efallai na chaiff y person ei gyfeirio i gael asesiad arbenigol gan olygu na fydd yr asesiad yn gyflawn ac y bydd y trefniadau gofal yn annigonol. Noda'r Canllawiau Byddarddall mai person neu dîm sydd wedi ei hyfforddi'n benodol ddylai gynnal asesiad o berson byddarddall er mwyn gallu archwilio eu hanghenion penodol yn fanwl. Mae potensial y gallai hyn weithio'n effeithiol o fewn cyfundrefn Asesu Unedig ond mae angen aseswyr cyffredinol i allu adnabod byddarddallineb a'i effeithiau ac atgyfeirio'r person yn briodol. Sut mae defnyddio'r gyfundrefn Asesu Unedig gyda phobl fyddarddall hŷn? Meddyliwch am synhwyraidd deuol! • Bob tro y byddwch yn asesu person hŷn, ystyriwch a allai eu hanghenion fod yn gysylltiedig â byddarddallineb. • Sicrhewch eich bod wedi eich hyfforddi i adnabod byddarddallineb a'i effeithiau. Y peth lleiaf y dylai pawb sy'n cynnal asesiad cyswllt neu asesiad trosolwg ei wneud yw sicrhau bod ganddynt restr wirio Llenwch y Bylchau ar gyfer asesu pobl fyddarddall hŷn. • Sicrhewch eich bod yn defnyddio technegau cyfathrebu da sy'n ddefnyddiol gyda phobl hŷn. (I gael gwybodaeth am dechnegau cyfathrebu, ewch i dudalen 17). Gwnewch y cysylltiad • Cyn gynted ag y canfyddir mewn asesiad fod posibilrwydd bod gan y person golled synhwyraidd deuol, dylid trefnu asesiad arbenigol drwy'r Tîm Synhwyraidd neu asiantaeth arbenigol arall megis Sense neu Deafblind UK. Gallai asesiad a hyfforddiant sgiliau gan weithiwr arbenigol arwain at fwy o annibyniaeth a gwell ansawdd bywyd. • Dylech ddatblygu cysylltiadau effeithiol gyda'r arbenigwyr synhwyraidd yn eich awdurdod lleol ac asiantaethau arbenigol eraill. • Anelwch at gael eich hyfforddi i ddatblygu eich sgiliau eich hun o ran adnabod sgiliau byw'n annibynnol pobl fyddarddall hŷn. Gwybodaeth • Sicrhewch fod gennych wybodaeth dda am wasanaethau cenedlaethol a gwasanaethau lleol. • Sicrhewch fod gwybodaeth, llythyrau a chynlluniau gofal ar gael mewn fformatau hygyrch (e.e. print mawr, Braille, tâp sain neu ddisg). I gael gwybodaeth am wasanaethau trawsgrifio, ewch i'r adran ar Adnoddau. Os nad yw eich systemau Asesu Unedig yn cofnodi'r wybodaeth hon, siaradwch am hyn gyda'r sawl sy'n cydlynu eich Asesiad Unedig. Anghenion cyfathrebu • Byddwch yn ymwybodol y gallai rhai pobl fod angen cymorth dynol gyda hwy yn ystod eu hasesiad - dehonglydd, tywysydd gyfathrebydd neu eiriolwr. • Rhaid i reolwyr fod yn ymwybodol o'r gofynion o ran costau ac amser. Efallai y bydd angen mwy o amser i drefnu dehonglwyr. Gyda dehonglwyr, neu hebddynt, mae'r asesiad ei hun yn debygol o gymryd mwy o amser oherwydd anghenion cyfathrebu penodol yr unigolyn byddarddall. Gall yr effaith o ganolbwyntio ar gyfathrebu am gyfnod hir fod yn flinderus iawn ac efallai y bydd angen mwy nag un ymweliad. Pan fydd pobl fyddarddall hŷn yn ganolbwynt i asesiad, rhaid i reolwyr sicrhau ychydig o hyblygrwydd o ran cyflawni targedau. Astudiaeth achos: David, 73 Mae David yn 73, gyda nam ar y golwg ac ychydig iawn o olwg canolog sydd ganddo. Mae ganddo hefyd fyddardod llym, ac yn dibynnu ar ddau gymorth clyw i chwyddo sain lleferydd a synau amgylcheddol eraill. Ond mae'n cael anhawster dilyn sgwrs hyd yn oed mewn amgylchedd tawel. Roedd gan David a'i wraig berthynas gefnogol iawn gan ymdopi â bywyd heb unrhyw gymorth. Ond ymddengys ei fod wedi mynd yn isel ei ysbryd ers iddo golli ei wraig. Mae ei feddyg teulu yn gwneud cais am asesiad am ei bod yn pryderu am ei allu i ymdopi ar ei ben ei hun. Cynhelir yr asesiad trosolwg ac am fod gan yr asesydd beth ymwybyddiaeth o'r anawsterau penodol a gaiff eu hachosi gan gyfuniad o golled clyw a golwg, gall ganolbwyntio rhai cwestiynau yn benodol ar y materion hyn. Sylweddola bod angen asesiad arbenigol a gwna'r atgyfeiriad priodol. Mae'r asesiad arbenigol yn nodi'r meysydd allweddol o ddarpariaeth sy'n annog annibyniaeth a dewis ar gyfer David. Ymhlith y rhain mae: * system galwr sy'n crynu i rybuddio David bod rhywun wrth y drws * system dolen er mwyn cael ryw ddefnydd o'r teledu * hyfforddiant sgiliau sy'n ymwneud â diogelwch yn y gegin ac amgylchedd y cartref * hyfforddiant symudedd sy'n rhoi'r hyder iddo fynd allan ar ei ben ei hun yn yr ardal leol *mynychu grŵp yn wythnosol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg lle y darperir ar gyfer ei anghenion cyfathrebu. B. Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal (MTWG) Rhan o'r canllawiau Asesu Unedig yw'r meini prawf cymhwysedd o ran Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal. Mae'r canllawiau hyn a'r Canllawiau Byddarddall yn gyfartal yn ôl y gyfraith. Mae'r ddau yn ganllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. Mae'r canllawiau Byddarddall a'r MTWG yn gweithio gyda'i gilydd i hybu gwell mynediad, asesiad a gwasanaethau i oedolion byddarddall. Pan wneir penderfyniad o ran pwy sy'n gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae'n bwysig cydnabod effaith colled synhwyraidd deuol ar y ffactorau allweddol canlynol wrth geisio aros yn annibynnol: • ymreolaeth • iechyd a diogelwch • cynnal arferion dyddiol • cyfranogiad. Nid oes hierarchaeth o ran pwysigrwydd rhwng y ffactorau allweddol hyn. Felly ni roddir mwy o ystyriaeth i risgiau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch nag i risgiau sy'n ymwneud â chyfranogiad. Gall pobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol wynebu risg ym mhob un o'r meysydd hyn ac efallai eu bod yn wynebu risg arbennig o ran ymreolaeth a chyfranogiad. Astudiaeth achos: Jim, 82 Mae gwraig yn rhoi gwybod bod ei thad sy'n 82 oed ac yn fyddar yn ymddangos fel pe bai'n isel ei ysbryd. Mae’n ymddangos nad yw Jim am gyfathrebu â'i deulu ac nid yw'n bwyta'r prydau bwyd a gaiff eu darparu gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae wedi colli diddordeb yn ei jig-sos, ei hoff ffilmiau a'i beint rheolaidd yn y dafarn gyfagos hefyd. Ymddengys ei fod yn ymbellhau i'w fyd ei hun. Beth fydd yr asesiad yn ei ganfod? Am fod Jim yn dal i allu ymdopi â'i ofal personol ei hun ac yn cael cymorth gyda thasgau byw bob dydd gan ei ferch sy'n ymweld ddwywaith yr wythnos, casgliad yr asesiad trosolwg yw bod y risgiau i'w annibyniaeth yn gymedrol (a'r tu allan i'r meini prawf a fyddai’n ei wneud yn gymwys i gael gwasanaethau mewn llawer o awdurdodau lleol). Os caiff person byddarddall ei asesu a'i osod y tu allan i'r meini prawf yn ystod y cam cychwynnol hwn, ni fydd hyn yn bodloni gofynion y Canllawiau Byddarddall. Mae hyn yn datgan y dylai'r holl asesiadau o bobl fyddarddall (gan gynnwys asesiadau MTWG) gael eu cynnal gan rywun sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol i'w cynnal. Mae hon yn neges bwysig a ddaw o'r Canllawiau. Mwy am Jim, 82 Canfydda asesiad arbenigol fod ei olwg yn gwaethygu ac yn effeithio ar ei allu i ddarllen gwefusau pobl, manteisio ar weithgareddau hamdden yn ei gartref, a mynd allan i'r ardal leol. Caiff ei ymreolaeth a'i gyfranogiad eu bygwth yn sylweddol ac mae'n gymwys i gael y gwasanaethau. Bydd gwasanaethau syml yn gwneud gwahaniaeth: gall awgrymiadau cyfathrebu ar ei gyfer ef a'i deulu wella ei gyfranogiad mewn sgwrs; gall goleuo penodol ei helpu i weld ei bryd bwyd a gwneud iddo deimlo ei fod am ei fwyta; mae hyfforddiant symudedd syml yn golygu y gall ail-ddechrau mynd allan i'r dafarn leol. Bydd asesydd sydd â dealltwriaeth arbenigol o anghenion pobl fyddarddall hŷn yn tanlinellu effeithiau anawsterau gyda'r clyw a'r golwg yn ogystal ag asesu effeithiau heneiddio, gweld pa mor agored i niwed ydynt a chyflyrau eraill sy'n analluogi pobl. Gall y cymorth penodol i hybu annibyniaeth o ran pobl fyddarddall gynnwys y canlynol: • strategaethau cyfathrebu syml • offer • help i ganfod ffyrdd newydd o ymgymryd â thasgau bob dydd • hyfforddiant symudedd • cymorth un-i-un. Adnabod byddarddallineb Fel y tîm sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â phobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol, mae'n bwysig sicrhau bod yr holl staff wedi cael hyfforddiant i wybod beth yw byddarddallineb a'i effaith ar annibyniaeth (gweler yr adran ar Adnoddau i gael gwybodaeth am hyfforddiant - tudalen 23). Dysgwch adnabod yr anabledd a sut y gellir cynorthwyo pobl - yn hytrach na'i dderbyn fel rhan o'r broses o heneiddio na ellir gwneud dim amdani. Beth am ddatblygu 'hyrwyddwr' ar faterion synhwyraidd o fewn eich tîm? Mae'r Arweiniad MTWG hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried anghenion hirdymor. Felly efallai mai lefel isel neu gymedrol o angen sydd gan berson ar hyn o bryd, ond mae angen cymorth buan er mwyn atal dirywiad. Ni ddylai awdurdodau lleol aros nes y bydd yr angen yn cyrraedd lefel uwch cyn darparu gwasanaeth. Astudiaeth achos: Mair, 79 Gwraig ddall 79 oed sy'n defnyddio cymorth clyw i gefnogi ei chlyw sy'n dirywio ac sy'n byw'n annibynnol ac yn gallu ymdopi'n dda gartref mewn amgylchedd cyfarwydd. Fodd bynnag, mae'n cael anawsterau cynyddol y tu allan i'r cartref. Ni all ddal y bws i'r siopau bellach gan na all weld rhifau'r bysiau ac mae'n gorfod dibynnu ar bobl eraill i ddweud wrthi pa fws sydd wedi cyrraedd. Oherwydd sŵn traffig yn y cefndir, ni all glywed beth mae pobl yn ei ddweud, ac mae wedi drysu ac nid yw wedi gallu teithio. Yn ogystal â siopa am fwyd, mae ei thaith wythnosol yn cynnwys ymweliad â Merched y Wawr lle mae pawb yn ei hadnabod ac mae ganddi lawer o gyfeillion. Oherwydd hyn, mae'n amharod i ddefnyddio gwasanaeth siopa. Os caiff tywysydd gyfathrebydd un-i-un ei ddarparu ar hyn o bryd, bydd yn sicrhau bod ei chyfranogiad yn parhau, fydd yn ei galluogi i wneud dewisiadau annibynnol ac yn rhwystro dirywiad pellach. Heb hyn, mae Mair yn wynebu'r risg o golli ei sgiliau a mynd yn fwy dibynnol ar lefelau gofal uwch, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai angen gofal preswyl. C. Y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (FfGC) ar Gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn gosod safonau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran lles ac iechyd. Nid oes unrhyw safon ar gyfer nam synhwyraidd. Fodd bynnag, bydd angen gwasanaethau ar lawer o'r safonau i fynd i'r afael â byddardallineb. Dyma rai enghreifftiau o'r ffordd y gallai rhai o'r safonau gael eu defnyddio: • Cael gwared ar wahaniaethu ar sail oedran - Drwy gydnabod nad yw colled clyw a golwg ond yn rhan arferol o heneiddio a thrwy gynnig cymorth sy'n eu galluogi i gymryd rhan gyfartal. • Gofal sydd â'r person yn ganolog - Gallai hyn gynnwys darparu gwybodaeth am y fformat priodol ar gyfer yr unigolyn; er enghraifft, defnyddio print bras neu Braille wrth ohebu neu mewn cynlluniau gofal. • Hybu iechyd a lles wrth fynd yn hŷn - Mae gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff rheolaidd yn anodd iawn i lawer o bobl fyddarddall hŷn oherwydd eu unigedd cymdeithasol a phroblemau symudedd. Efallai nad ydynt yn disgwyl llawer mewn canolfannau hamdden neu eu bod wedi cael profiadau gwael yno lle nad oedd eu hanghenion yn cael eu deall. • Herio dibyniaeth - Gall darparu hyfforddiant symudedd a sgiliau bywyd bob dydd, cymorth cyfathrebu neu dechnoleg gynorthwyol a addaswyd i'w defnyddio gan berson byddarddall eu helpu i barhau'n annibynnol. • Gofal mewn ysbyty - Rhaid i staff fod yn ymwybodol o anghenion arbennig pobl fyddarddall hŷn er mwyn gallu addasu eu harferion gwaith i sicrhau y caiff pobl wybodaeth ddibynadwy a gofal priodol. Er enghraifft, bydd darparu prydau bwyd priodol yn cynnwys sicrhau bod y person byddarddall yn gwybod pan gaiff bwyd ei ddarparu a'i fod yn hawdd i'w fwyta. • Syrthio - Mae nam ar y golwg yn un o'r ffactorau mwyaf sy'n achosi pobl hŷn i syrthio. Mae colled synhwyraidd deuol hefyd yn effeithio ar gydbwysedd, a gall ymarferion cynnal pwysau fod yn anodd os yw symudedd wedi cael ei effeithio. • Iechyd Meddwl - Efallai bod pobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol yn fwy tebygol o gael iselder ysbryd. Weithiau bydd pobl yn cymryd yn ganiataol fod pobl sydd â cholled synhwyraidd deuol yn dioddef dementia, gan fod y symptomau yn ymddangos yn debyg. Ond ni ddylid cymharu'r dryswch sy'n deillio o unigrwydd ac amddifadedd synhwyraidd â'r dryswch sy'n deillio o niwed i'r ymennydd. O ran y person byddarddall, os caiff dulliau cyfathrebu effeithiol eu rhoi ar waith mae'n bosibl lleihau'r dryswch a'r diflastod ac ail-gysylltu â'r byd mewn modd ystyrlon. • Meddyginiaeth – Gall gwybodaeth print mân, neu anallu i weld tabledi bach olygu nad yw pobl yn cymryd meddyginiaethau fel y dylent. Gweithio gyda phobl fyddarddall hŷn Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar rai o'r camau syml, ymarferol y gellir eu cymryd i'ch helpu i adnabod pobl fyddarddall hŷn, cyfathrebu'n effeithiol a darparu gwybodaeth am fformatau hygyrch. Sut y gall eich tîm weithio'n effeithiol gyda phobl fyddarddall hŷn? Fel y gwelwyd, gallai pobl hŷn nad ydynt yn gweld na chlywed popeth sy'n digwydd o'u cwmpas gael eu drysu gan yr amgylchedd ffisegol a chymdeithasol a gall hyd yn oed beri pryder iddynt. Gall yr ymdrech a'r sgiliau sydd eu hangen i fynd allan neu ymgysylltu â gweithgarwch cymdeithasol fod yn flinderus a gall arwain at ymgilio ac ynysu'r unigolyn yn fwy. Mae ymateb emosiynol hefyd yn gysylltiedig â cholled synhwyraidd deuol. Caiff pobl eu torri oddi wrth y byd o'u hamgylch fel yr oeddent yn arfer ei brofi a gallai hyn arwain at deimladau o golled, rhwystredigaeth, dicter a galar. Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar rai o'r addasiadau syml, ymarferol y gellir eu cymryd i'ch helpu i adnabod pobl fyddarddall hŷn, cyfathrebu'n effeithiol a darparu gwybodaeth am fformatau hygyrch. Mae person byddarddall hŷn yn debygol o fod angen cymorth yn y meysydd canlynol: • Cyfathrebu • Gwybodaeth – gan gynnwys gwybodaeth gyhoeddus • Symudedd a thrafnidiaeth • Symbyliad a rhyddhad o unigedd • Cymorth emosiynol a chwnsela • Offer • Tai Bydd y rhestrau gwirio canlynol o gymorth i chi adnabod rhai o'r arwyddion arferol a ddaw yn sgîl colled clyw a golwg. Nid yw'r rhain yn rhestrau cyflawn; efallai na fydd rhai pobl yn dangos unrhyw un o'r arwyddion hyn ac efallai y byddwch yn sylwi ar rai eraill na chânt eu rhestru. Arwyddion o golled clyw a golwg Gallai person sydd ag anawsterau clywed: • Cwyno bod eraill yn mwmian neu'n siarad yn rhy gyflym • Gofyn i eraill ailadrodd eu hunain • Gofyn i eraill siarad yn uwch • Ailadrodd geiriau er mwyn dilysu'r hyn a ddywedwyd • Ei chael hi'n anodd dilyn sgyrsiau mewn amgylcheddau swnllyd neu mewn grŵp • Cael anawsterau deall pobl neu acenion anghyfarwydd • Blino yn ystod sgyrsiau oherwydd yr angen i ganolbwyntio • Osgoi sefyllfaoedd lle mae disgwyl iddynt gynnal sgwrs • Bod angen sain y teledu neu'r radio yn uwch na'r hyn sy'n gyfforddus i bobl eraill • Ei chael hi'n anodd clywed ar y ffôn • Defnyddio cymorth clyw neu system dolen. Gallai person sydd ag anawsterau gweld: • Ei chael hi'n anodd adnabod gwrthrychau neu wynebau cyfarwydd • Bod angen mwy o olau ar gyfer darllen a gweithgareddau eraill • Ei chael hi'n anodd ymdopi â golau llachar, e.e. haul cryf • Eistedd yn anarferol o agos at y teledu • Bod ag arferion darllen anarferol, e.e. dal llyfr yn agos iawn at eu hwyneb • Rhoi'r gorau i ddarllen, gwylio'r teledu neu weithgareddau eraill • Methu dod o hyd i wrthrychau bach • Colli bwyd neu daro cwpanau drosodd • Gwisgo lliwiau nad ydynt yn cydweddu neu wisgo dillad â staeniau arnynt • Cael anawsterau wrth symud - cerdded yn araf neu â llai o hyder • Cerdded i mewn i bethau • Cael anawsterau a gaiff eu hachosi gan newid mewn lefel goleuadau • Cael anawsterau gyda llwybrau neu fannau anghyfarwydd. Bydd pobl hŷn sydd â cholled synhwyraidd deuol yn cael trafferth cyfathrebu yn aml iawn. Wrth ddefnyddio synnwyr cyffredin, siarad yn glir a bod yn gwrtais gallwn helpu person hŷn i ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud. Gall atebion syml wella'r amgylchedd yn sylweddol i bobl fyddarddall. Gall pobl hŷn sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ei chael hi'n anodd cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Saesneg. Wrth gynnal asesiadau neu wrth ddarparu gwasanaethau, mae'n bwysig ystyried dewis iaith pobl fyddarddall hŷn. Cyfathrebu'n effeithiol - wyneb yn wyneb Cyn dechrau: • Sicrhewch eich bod wedi dal sylw'r person • Cofiwch ddweud wrth berson sydd â nam ar eu golwg bob tro yr ydych yno • Gofynnwch i'r person beth fydd yn gwneud i gyfathrebu fod yn effeithiol a gwnewch hynny. Ble i siarad: • Rhwng 3 - 6 troedfedd oddi wrth eich gilydd ar yr un lefel • Mae goleuo da yn bwysig. Wynebwch y golau fel bod eich wyneb i'w weld • Ceisiwch osgoi sŵn cefndir. Diffoddwch y sŵn neu symudwch i rywle tawelach. Siarad yn glir: • Siaradwch yn glir • Siaradwch ychydig yn arafach na'r arfer, ond cadwch rythm naturiol eich sgwrs • Siaradwch ychydig yn uwch, ond peidiwch â gweiddi gan y bydd hyn yn amharu ar eich llais a phatrymau eich gwefusau • Ceisiwch wneud patrymau eich gwefusau yn glir, ond peidiwch â gor-bwysleisio • Gadwch eich wyneb yn y golwg a'ch pen yn llonydd. Peidiwch smygu, bwyta, cnoi gwm na gorchuddio eich ceg gyda'ch dwylo • Canolbwyntiwch ar y sawl rydych yn siarad â hwy. Os ydych yn defnyddio dehonglydd, siaradwch yn uniongyrchol gyda'r person byddar bob amser, nid y dehonglydd. Helpwch y person arall i ddeall: • Peidiwch â rhuthro, cymerwch eich amser • Os oes angen, ail-adroddwch ymadroddion. Os na fydd hyn yn llwyddo, beth am ail-strwythuro'r holl frawddeg. Mae rhai geiriau yn haws nag eraill i'w darllen ar y wefus • Gwnewch y pwnc yn hysbys o'r dechrau ac os byddwch yn newid y pwnc, sicrhewch fod y person yn deall hynny • Defnyddiwch ystumiau a mynegiant ar eich wyneb i ategu'r hyn a ddywedwch • Os yw person yn gwenu ac yn nodio'i ben, byddwch yn ymwybodol nad yw o anghenraid yn golygu eu bod yn eich deall • Byddwch yn ymwybodol y gall yr ymdrech o ganolbwyntio ar gyfathrebu fod yn waith caled i berson byddarddall hŷn ac na ellir gwneud hynny am gyfnodau hir • Mae asesiadau yn debygol o gymryd mwy nag un ymweliad a bydd angen rhoi mwy o amser ar eu cyfer • Byddwch yn barod i ysgrifennu pethau, gan ddefnyddio llyfr nodiadau A4 a phin ysgrifennu du trwchus. Dehonglwyr Mae rhai pobl fyddarddall hŷn yn defnyddio dulliau arbenigol o gyfathrebu a bydd angen cymorth cyfathrebu arnynt yn ystod y broses asesu. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r dull o gyfathrebu a gaiff ei ddefnyddio gan y person byddarddall a threfnu dehonglwyr priodol ddigon ymlaen llaw. Gallai'r dulliau cyfathrebu gynnwys y canlynol: • Iaith Arwyddion Prydain • Y wyddor ddwylo fyddarddall • Bloc • Siarad gwefusau • Llafar i destun • Ieithoedd cymunedol. Gall eich tîm synhwyraidd lleol ddarparu gwybodaeth am drefnu dehonglwyr a cheir gwybodaeth yn yr adran ar Adnoddau yng nghefn y llyfryn hwn. Cyfathrebu'n effeithiol - o bell Dros y ffôn Mae llawer o bobl fyddarddall hŷn yn cael anhawster defnyddio'r ffôn ond maent yn parhau i ddibynnu arno. Dyma rai awgrymiadau syml i'ch helpu i gyfathrebu'n effeithiol dros y ffôn. • Siaradwch yn glir fel y disgrifiad blaenorol • Peidiwch â gweiddi na dal y ffôn yn rhy agos at eich ceg gan fod hyn yn amharu ar eich llais • Peidiwch â siarad yn rhy dawel • Pan fyddwch yn ffonio rhywun sydd â cholled synhwyradd deuol, rhowch amser iddynt addasu sain eu cymorth clyw cyn dechrau'r sgwrs. • Cadwch negeseuon ar beiriant ateb yn fyr ac yn gryno. Ffonau testun Mae ffonau testun yn caniatáu i bobl fyddar a thrwm eu clyw gyfathrebu drwy'r rhwydwaith ffôn safonol. Mae gan ffonau testun sgrîn a bysellfwrdd er mwyn galluogi'r defnyddiwr i deipio'r hyn maent am ei ddweud a darllen yr ateb a gaiff ei deipio yn ôl iddynt. Mae rhai pobl fyddarddall yn defnyddio ffonau testun sydd â sgrin fawr. Gellir cael gwybodaeth am y mathau gwahanol o ffonau a ffonau testun ar wefan RNID: www.rnid.org.uk Mae BT yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â nam synhwyraidd, gan gynnwys gwasanaeth ymholiadau llyfr ffôn ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg (ffoniwch 195) a gwasanaeth ffôn testun ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw. Gwasanaeth cenedlaethol trosglwyddo negeseuon ffôn yw RNID Typetalk. Gall defnyddwyr ffonau testun byddarddall deipio negeseuon i weithredydd Typetalk a fydd wedyn yn trosglwyddo'r neges ar ffurf lafar i berson sy'n clywed ar ffôn safonol. Yna, caiff yr ymateb llafar ei drosglwyddo gan y gweithredydd drwy ei deipio ar ffurf testun. Mae BT TextDirect yn cysylltu defnyddwyr ffonau testun gyda defnyddwyr ffonau testun a llais eraill (drwy wasanaeth Typetalk RNID) ac mae ar gael i bob tir wifren pa un a gânt eu cyflenwi gan BT ai peidio. Mae defnyddwyr ffonau testun yn deialu'r rhagrif 18001 ac yna'r rhif ffôn arferol. Mae defnyddwyr ffonau llais yn deialu'r rhagrif 18002 ac yna'r rhif ffôn arferol. Gwybodaeth ysgrifenedig Dylai pob gwybodaeth a gohebiaeth a gaiff eu darparu gan eich tîm fod ar gael mewn fformatau hygyrch. Er enghraifft, dylai llythyrau apwyntiadau, asesiadau, cynlluniau gofal, gwybodaeth am wasanaethau ac ati fod ar gael mewn print bras, braille, ar dâp sain neu ar ddisg. Mae gan lawer o bobl sydd â nam ar eu golwg ddigon o olwg i ddarllen gwybodaeth sydd wedi ei hargraffu os yw'n fawr ac yn drwm. Nid yw un maint penodol yn addas i bawb, ond mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl gael print bras rhwng 16 a 22 pwynt. Mae Arial yn un enghraifft o ffont glir. Gallwch lunio dogfennau print bras syml ar gyfrifiadur eich hun. Os oes angen gwybodaeth mewn Braille, ar dâp sain neu ar ddisg ar gyfer unrhyw un, gallwch ddefnyddio gwasanaeth trawsgrifio Sense - mae'r manylion yn yr adran ar Adnoddau, t 23. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â'ch tîm Synhwyraidd lleol neu asiantaethau synhwyraidd arbenigol eraill megis Sense, Deafblind UK neu'r RNIB. Gwasanaethau arbenigol Dyma drosolwg cryno o wasanaethau a allai fod ar gael i bobl fyddarddall hŷn drwy eich tîm nam synhwyraidd (neu debyg): • Asesiad arbenigol a chynllunio gofal - asesu effeithiau anawsterau clywed a gweld a'u heffaith ar gadw annibyniaeth. • Cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth - mynediad i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, hawliau lles, sefydliadau byddarddall cenedlaethol, asiantaethau lleol. • Offer - asesu a darparu offer i gynorthwyo gyda gweithgareddau bob dydd: e.e. ffonau sain uchel y gellir eu gweld yn hawdd; ffonau testun â sgriniau mawr; gwrandawyr teledu personol; systemau dolen; marcwyr cyffyrddadwy; systemau galwyr sy'n crynu fel rhybudd bod cloch y drws, ffôn yn canu, neu fod y larwm mwg yn seinio. • Hyfforddiant symudedd - gan gynnwys cyngor ar wneud y cartref yn fwy diogel ar gyfer symud o'i amgylch neu hyfforddiant mewn teithio y tu allan i'r cartref yn annibynnol ac yn ddiogel. • Cyfathrebu - gan gynnwys cymorth i ddatblygu sgiliau cyfathrebu priodol ar gyfer y bobl fyddarddall eu hunain ac aelodau o'u teulu neu ofalwyr a gwybodaeth am ddefnyddio dehonglwyr. • Hyfforddiant sgiliau eraill - gan gynnwys diogelwch yn y gegin ac amgylchedd y cartref. • Cymorth un-i-un - e.e. gwasanaethau Tywysydd Gyfathrebydd. Mae Tywyswyr Gyfathrebwyr wedi cael eu hyfforddi i gynorthwyo pobl fyddarddall gyda chyfathrebu a symudedd er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a lleddfu teimladau o unigedd. Bydd y tasgau a gaiff eu cynnal yn dibynnu ar yr unigolyn byddarddall a'i anghenion, ond gallant gynnwys: mynychu apwyntiadau; cymorth i fynd i siopa; darllen gohebiaeth; ymarfer corff; gweithgareddau hamdden. Diben y gwasanaeth hwn yw cydweddu â gwasanaethau eraill (e.e. Gofal yn y Cartref) ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle'r gwasanaethau hynny. Beth i'w wneud ar ôl darllen hwn … 1. Trafodwch anghenion pobl fyddarddall hŷn yn ystod eich cyfarfodydd tîm. Ystyriwch rai o'r cwestiynau canlynol: • A ydym yn cydnabod fod y cyfuniad o golled clyw a golwg yn cydblethu i greu anabledd unigryw a gwahanol? • A ydym yn gwybod am bobl fyddarddall hŷn sy'n byw yn lleol? Faint rydym yn ymwybodol ohonynt? • Sut gallwn ddatblygu ein sgiliau o ran dod i adnabod pobl fyddarddall? Pa hyfforddiant sydd ar gael? Pwy ddylai gael eu hyfforddi? A yw'n bosibl penodi un aelod o'r tîm fel 'hyrwyddwr synhwyraidd'? • Wrth asesu pobl hŷn, a ydym yn ystyried y posibilrwydd eu bod â cholled synhwyraidd deuol ac effaith hynny? • Wrth asesu pobl hŷn, a ydym yn addasu'n ddigonol i'w hanghenion cyfathrebu? A ydym yn gwybod sut i gael gafael ar ddehonglwyr a mathau eraill o gymorth cyfathrebu os oes angen? • A yw ein gwybodaeth am asesu yn hygyrch i ddefnyddwyr a gofalwyr sydd â cholled synhwyraidd deuol? • Sut mae modd defnyddio Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 i hybu buddiannau pobl fyddarddall hŷn? • Pa wasanaethau a gaiff eu darparu'n lleol ar gyfer pobl fyddarddall hŷn drwy asiantaethau statudol neu wirfoddol? • A wyddom pryd a ble i gyfeirio pobl i gael asesiad arbenigol? 2. Canfyddwch sut i gysylltu â'ch tîm Synhwyraidd lleol ac ysgrifennwch eu rhif ffôn yma: 3. Ystyriwch wahodd arbenigwr o'r tîm Synhwyraidd i gyfarfod eich tîm i drafod sut y gallwch gydweithio'n effeithiol gyda phobl fyddarddall hŷn. 4. Ystyriwch drefnu digwyddiad yn ystod yr Wythnos Codi Ymwybyddiaeth o Fyddarddallineb. Adnoddau Ceir amrywiaeth o sefydliadau, cyhoeddiadau ac adnoddau a all eich helpu i wella'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pobl fyddarddall hŷn. Sefydliadau defnyddiol: Sense Cymru 5 Rhodfa Raleigh, Brigantine Place, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd, CF10 4LN Ffôn: 029 2045 7641 Ffôn testun: 029 2046 4125 cymruenquiries@sense.org.uk Deafblind UK National Centre for Deafblindness John and Lucille van Geest Place Cygnet Road Hampton, Peterborough Cambridgeshire PE7 8FD Ffôn: 01733 358100 Ffôn testun: 01733 358858 Llinell gymorth: 0800 132 320 www.deafblind.org.uk RNIB Cymru Trident Court, East Moors Road, Caerdydd, CF24 5TD Ffôn: 029 2045 0440 www.rnib.org.uk/cymru RNID Cymru 4ydd Llawr, Tudor House, 16 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ Ffôn: 029 2033 3034 Ffôn testun: 029 2033 3036 Rnidcymru@rnid.org.uk www.rnid.org.uk Gwasanaeth Trawsgrifio Mae Sense yn darparu gwasanaeth ar gyfer trawsgrifio dogfennau i braille, tapiau sain, disgiau, ac ati. Ffôn: 024 7671 7522 transcription@sense.org.uk Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddarddallinebl I gael gwybodaeth am hyfforddiant, cysylltwch â: The Council for the Advancement of Communication with Deaf People (CACDP) Durham University Science Park Block 4 Stockton Road Durham DH1 3UZ Ffôn: 0191 383 1155 Ffôn testun: 0191 383 7915 www.cacdp.org.uk durham@cacdp.org.uk Dehongli I gael gwybodaeth am ddefnyddio dehonglwyr, cysylltwch â'ch tîm Synhwyraidd lleol neu CACDP fel uchod. Cyfeiriadau: Butler, S J (2004) Hearing and Sight Loss – A handbook for professional carers, Age Concern England Yr Adran Iechyd (1997) Think Dual Sensory – Good Practice Guidelines for Older People with Dual Sensory Loss Hodges, L a Douglas, G (2005) Short Study on hearing and sight loss – Preliminary Report for The Thomas Pocklington Trust Prifysgol Birmingham Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (1970) - Canllawiau Adran 7 Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal (2003) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gofal Cymdeithasol am Blant ac Oedolion Sy'n Fyddar a Dall (2001) GIG Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: Creu System Unedig a Theg ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal, (2001) RNIB (1991) Blind and partially sighted adults in Britain – The RNIB survey Volume 1 Y Llyfrfa RNID (2000) General statistics on hearing Llundain, RNID Third European Conference of Deafblind International’s Acquired Deafblindness Network proceedings (1998) Elderly Deafblindness Vale D a Smyth C (2003) Changing the way we think about blindness Llundain RNIB Adnoddau ar y we: Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch - ewch i becyn 'See it Right' yr RNIB - sydd ar gael yn www.rnibcymru.org.uk GIG Cymru www.wales.nhs.uk Gwefan Sense www.sense.org.uk Diolch i chi am gymryd eich amser yn darllen y llyfryn hwn. Gobeithio ei fod yn ddefnyddiol, ac y gallwch helpu i lenwi'r bylchau ym mywydau pobl fyddarddall hŷn. Llenwch y Bylchau> Mae'r llyfryn hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n gweithio gyda phobl fyddarddall hŷn. Mae'n egluro beth yw byddarddallineb a'r ffordd mae'n effeithio ar bobl. Mae'n nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol ac yn egluro sut mae modd cefnogi a chynorthwyo pobl fyddarddall. Medi 2006 Sense Cymru Sense Cymru Tŷ Penderyn 26 Stryd Fawr Merthyr Tudful CF47 8DP Ffôn: 0845 127 0090 Ffôn testun: 0845 127 0092 Fffacs/fax: 0845 127 0091 cymruenquiries@sense.org.uk Sense 101 Pentonville Road London N1 9LG Ffôn: 0845 127 0060 Ffacs: 0845 127 0061 Minicom: 0207 520 0959 Ebost: info@sense.org.uk Gwefan: www.sense.org.uk Rhif elusen gofrestredig: 289868